prycop,

(Welsh) n. spider


Services

Home
Web Design

Domain Names

 Charges

Gwasanaethau

Cartref
Cynllunio'r We

Enwau Domain

Prisiau



Efallai eich bod wedi clywed, mae’r diddordeb yn y Rhyngrwyd yn dal i gynyddu gyda tua 60% o drigolion Prydain ar y Wê, mae llawer nawr yn manteisio ar y gynulleidfa fyd eang o thua 500 miliwn i hysbysebu a hyrwyddo’u busnes - ond am bris!

Gall safleoedd gwê busnesau mawr gostio miloedd i’w creu a’u cadw, tra mae cwmni lleol yng Ngwynedd yn codi £150 y dudalen ar fusnesau bach! Gall eich busnes chi gael tudalen sefydlog ar Y Wê Fydeang am bris llai na hysbyseb mewn papur lleol!

Gallwn gynllunio a chyhoeddi eich safle yn sydyn ac am bris rhesymol iawn. Cewch ddewis safle 'barod' fel Dewis 1,2 a 3 isod,neu gallwn gynllunio safle unigryw i'ch gofynion ar ol i ni eu trafod.

Ceir y prisiau diweddaraf ar y dudalen 'prisiau'.

 

Tudalen Sengl:

Tudalen sengl yn cynnwys:

Bar Teitl, llun Digidol neu wedi eu Sganio.

Eich Testyn - Disgrifiad etc. (hyd at 200 gair)

Eich manylion cysylltu, Cyfeiriad, Rhif Ffôn, Ffacs etc.

Y dudalen wedi ei gosod ar Beiriant Chwilio.

 

Dewis 1:

Safle fwy proffesiynol gyda 2 dudalen.

Fel Dewis 1 ond hefyd:

Tudalen 1: Llun, Cyflwyniad a Manylion Cyswllt. Botwm i gysylltu â thudalen 2.

Tudalen 2: Lle i ddisgrifad, lleoliad, dyddiadau etc. Hyd at 2 lun. Botwm i gysylltu yn ôl.

 

Dewis 2:

Safle gwê proffesiynol i fusnes gyda 5 tudalen.

Fel Dewis 2 ond hefyd:

Tudalen 1 - Croeso a Chyflwyniad

Tudalen 2 a 3 - eich manylion, hyd at 6 llun.

Tudalen 4 - map lleol gyda chyfarwyddiadau.

Tudalen 5 - cyswllt ac atyniadau lleol.

Botymau proffesiynol i gysylltu’r tudalennau

 

Beth sydd AM DDIM?

Liun digidol ar eich tudalen.

Eich dewis o liwiau.

Eich tudalen wedi ei chynnwys ar y prif Beiriannau Chwilio.

 

Mwy o Fanylion!

Peiriant Chwilio - Dyma fydd y rhan fwyaf o bobl yn ei ddefnyddio i ddarganfod tudalennau gwê, efallai chwiliant am ‘Holiday + Wales’, bydd unrhyw dudalen â’r geiriau yma yn cael eu darganfod - os nad ydych ar y peiriant chewch chi ddim eich darganfod! Cewch eich gosod ar y Peiriannau Chwilio poblogaidd am ddim!

 

Atyniadau Lleol: - gyda’r dewis yma bydd botwm o’ch tudalen yn cysylltu a thudalen o atyniadau yn yr ardal i fod o gymorth i bobl gynllunio eu hymweliad.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 prycop.com, Faerdref, Botwnnog, Pwllheli, Gwynedd LL53 8RG

e-mail / e-bost: sales@prycop.com

Phone/ Ffôn: 01758 - 730620